Tystysgrif Genedlaethol mewn Nyrsio Deintyddol trwy Ddysgu Agored

Mae ein Pecyn Dysgu Agored ar gyfer Nyrsys Deintyddol yn rhaglen hyblyg o ddysgu, sy’n galluogi’r ymgeisydd i astudio yn ei amser ei hun ac ar ei gyflymder ei hun. Mae’r cwrs wedi cael ei achredu gan y Bwrdd Arholi Cenedlaethol ar gyfer Nyrsys Deintyddol, ac mae’n darparu cymorth i diwtoriaid sy’n anelu at helpu’r ymgeisydd i ennill y Dystysgrif Genedlaethol mewn Nyrsio Deintyddol a chofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Mae’r Pecyn Dysgu Agored yn hawdd ei ddefnyddio ac yn cael ei arwain gan yr ymgeisydd. Mae ymgeiswyr yn cwblhau Cynllun Dysgu’r Myfyriwr ar y dechrau trwy osod ei nodau a’i amserlenni ei hun.

Mae’r Pecyn Dysgu Agored yn cynnwys:

  • Pecyn Cynefino
  • Gwybodaeth i Gyflogwyr a Deintyddion sy’n Goruchwylio
  • Modiwl Cyflwyno
  • 4 Modiwl Dysgu sy’n cynnwys 16 gwers, yn amrywio o Rôl y Nyrs Ddeintyddol i Iechyd a Diogelwch yn y gwaith, gyda chwestiynau hunanasesu. Mae’r rhain yn seiliedig ar faes llafur y Dystysgrif Genedlaethol.
  • 5 prawf ysgrifenedig a ffug-arholiad.

Cost Pecyn Dysgu Agored y Dystysgrif Genedlaethol, sy’n cynnwys Cymorth i Diwtoriaid, TAW a chost postio a phecynnu: £450

Anfonwch e-bost at info.lkit@btconnect.com i gael ffurflen archebu, neu ffoniwch Hayley Morris ar 01792 651612.

website by rh10webdesign