Learn Kit

Yng Ngorffennaf 2008, fe ddathlodd Learn-Kit Ltd 20 mlynedd fel arbenigwyr mewn Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Nyrsio Deintyddol.

SErs i ni gael ein sefydlu ym 1988, mae’r cwmni wedi cael cytundebau sydd wedi cael eu hariannu gan y llywodraeth i ddarparu rhaglenni Dysgu Seiliedig ar Waith ym maes Nyrsio Deintyddol, Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gweinyddu. Ar hyn o bryd, rydym yn llunio cytundebau yn uniongyrchol gyda’r Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu rhaglenni Prentisiaeth Fodern ar draws De a Chanolbarth Cymru.

Mae ein rhaglenni wedi eu hachredu trwy’r cyrff dyfarnu canlynol:

  • City & Guilds
  • Y Bwrdd Arholi Cenedlaethol ar gyfer Nyrsys Deintyddol

Yn ychwanegol at ein rhaglenni Prentisiaeth Fodern – rydyn ni hefyd yn gwneud y canlynol:

  • Berchen ar hawlfraint i Becyn Dysgu Agored ac yn gweithredu rhaglen dysgu o bell gefnogol ar gyfer Nyrsys Deintyddol sy’n arwain at y Dystysgrif Genedlaethol mewn Nyrsio Deintyddol. Caiff yr adnodd hwn ei werthu ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
  • Gwasanaethau Cymorth Busnes, gan gynnwys Recriwtio a Dewis trwy Ddadansoddiad Proffil Personol Thomas International, Cwnsela a Hyfforddi Datblygiad Personol, Gwasanaethau Cynghori Buddsoddwyr mewn Pobl ac ymgynghoriaeth Adnoddau Dynol.

Mae’r holl staff yn Learn-Kit wedi eu hyfforddi’n uchel yn eu meysydd galwedigaethol arbenigol, ac fe allwch fod yn hyderus y bydd y gwasanaethau a ddarperir o’r safon uchaf.

website by rh10webdesign