Learn Kit Learn Kit Learn Kit

Nyrsio Deintyddol

Rydym yn darparu amrywiaeth o ddulliau i Nyrsys Deintyddol hyfforddi tuag at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, sy’n arwain at gofrestriad gorfodol gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Er mwyn cydymffurfio gyda chofrestriad gorfodol Nyrsys Deintyddol, rhaid bod unigolyn sydd am weithio fel Nyrs Ddeintyddol naill ai wedi cael cymhwyster neu’n gweithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig.

Yma yn Learn-Kit, rydym wedi bod yn cynnig rhaglenni hyfforddiant i Nyrsys Deintyddol ers dros 20 mlynedd, yn gyntaf o dan Indent Training Associates ac o 1994 o dan Learn-Kit Ltd.

Mae’r dulliau hyn yn cynnwys –

NVQ Lefel 3 mewn Nyrsio Deintyddol a’r Dystysgrif Genedlaethol mewn Nyrsio Deintyddol

Rydym hefyd yn cynnig Datblygiad Proffesiynol Parhaus, dilysadwy ac annilysadwy, ac mae pob cwrs yn arwain at dystysgrif. Ar hyn o bryd, mae cyrsiau ar gael trwy gyrsiau byr, gweithdai a thrwy ein ‘moodle’. Cliciwch i weld ein cyrsiau diweddaraf.

Gwasanaethau Cymorth Busnes

Rydym yn cynnig nifer o wasanaethau wedi eu cynllunio’n benodol i wella sgiliau a pherfformiad unigolion ymhob agwedd ar fusnes.

Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs)

Rydym yn cynnig rhaglenni dysgu a datblygiad sy’n arwain at Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gweinyddu Busnes ar Lefel 2 a 3, gan ddibynnu ar rôl y swydd a phrofiad a gallu’r unigolyn. Mae gennym gytundebau gyda Llywodraeth Cynulliad Cymryd i ddarparu hyfforddiant wedi ei ariannu’n llwyr, ble mae hyn ar gael, ar gyfer y cyrsiau hyn, ac mae yna dîm o aseswyr sydd wedi eu hyfforddi’n llwyr ac sy’n gweithredu ar draws De a Chanolbarth Cymru, ac maen nhw ar gael i drosglwyddo hyfforddiant ac asesiad o safon uchel yn unol ag anghenion eich busnes.

I Ddysgwyr, dyma’r manteision:

  • Cydnabod sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid sydd eisoes yn bodoli
  • Cyfle i ymestyn sgiliau a datblygu rhai newydd
  • Amrywiaeth o unedau dewisol ar sail thema, fel ei bod yn haws cyfateb eich NVQ at rôl eich swydd
  • Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
  • Dilyniant gyrfa.

I Gyflogwyr, dyma’r manteision:

  • Gwell morâl ac ysgogiad ymhlith staff
  • Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer staff allweddol yn eich sefydliad
  • Gwir adfyfyrio ar berfformiad eich staff am ei fod yn seiliedig ar gymhwysedd ac nid yn academaidd

Cliciwch YMA i gysylltu â ni am wybodaeth bellach.

Buddsoddwyr mewn Pobl

Ers 1997, mae Learn-Kit wedi bod â rhan mewn darparu gwasanaeth cynghori ar gyfer Buddsoddwyr mewn Pobl, ar ôl i ni ennill y Safon ein hunain ym 1997 a chael adolygiadau llwyddiannus, y diweddaraf ym mis Mai 2008.

“Mae Safon Buddsoddwyr mewn Pobl yn safon ansawdd genedlaethol sy’n gosod lefel arfer da ar gyfer gwella perfformiad sefydliad trwy ei bobl” Mae ein sylfaen cleientiaid yn cynnwys amrywiaeth o fudiadau, sy’n cynnwys Deintyddfeydd, Cyfrifwyr, Cyfreithwyr, Meithrinfeydd Dydd, Cartrefi Nyrsio Preifat, Byrddau Iechyd Lleol, cyfanwerthwyr a chwmnïau adeiladu. Mae ein hymgynghorydd yn Asesydd Buddsoddwyr mewn Pobl cofrestredig ac yn Gynghorydd arbenigol i ysgolion. Mae gan Learn-Kit Ltd gytundeb gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n ariannu peth o’r cymorth ymgynghorol i gleientiaid dethol. Mae ein dull trosglwyddiad yn canolbwyntio, i raddau helaeth iawn, ar anghenion unigol y client, ac nid yw’n dilyn fformat penodol.

Mae ein gwaith ymgynghori yn dueddol o ganolbwyntio ar grwpiau arbenigol, ac mae ein perthynas agos gyda’r proffesiwn deintyddol yn lleol wedi rhoi cyfle i ni helpu’r Practis Deintyddol cyntaf i ennill Buddsoddwyr Mewn Pobl yn ardal De Cymru.

Cynghorydd Buddsoddwyr Mewn Pobl: Rosemary Grimshaw

I Gyflogedigion, dyma’r manteision:

  • cydnabyddiaeth a boddhad gyda’r swydd
  • gwell cyfathrebu ar faterion hyfforddiant a datblygu
  • amgylchedd gweithio da a chefnogol
  • gwell sgiliau, mwy o gyfrifoldeb ac ymglymiad a gwell cyfleoedd i ddatblygu gyrfa
  • balchder mewn perthyn i fudiad llwyddiannus
  • hyfforddiant o ansawdd da ble mae ei angen.

I Gyflogwyr, dyma’r manteision:

  • gwell morâl a gweithlu ysgogol
  • mwy o elw ac allbynnau
  • gweithgarwch hyfforddiant â chysylltiad mwy agos at anghenion busnes
  • symbyliad i fentrau ansawdd a gwelliant eraill
  • boddhad y cwsmer
  • cyhoeddusrwydd positif i’r sefydliad.

Cliciwch YMA i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth.

Canolfan Hunter-Burnside

Mewn cysylltiad â Learn-kit Ltd, mae Canolfan Hunter-Burnside, yn cynnig y gwasanaethau canlynol ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.

  • Hyfforddiant a Mentora Gweithredol
  • Dadansoddi Proffil Personol
  • Prawf ar gyfer Hyfforddiant a Dethol
  • Cwnsela
  • Seicotherapi
  • Rheoli Pwysedd

Am wybodaeth bellach ynghylch unrhyw rai o’r gwasanaethau hyn

Rhif Ffôn: 01792 465441
E-bost: hunter.burnside@btconnect.com
Gwefan: www.hunter-burnside.com

website by rh10webdesign